logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwnes di arllwys dy gariad (Iesu, Iesu, cwbwl ydyw gwaith dy law)

Gwnes di arllwys dy gariad ynof fi,
Gwnes di arllwys dy gariad ynof fi,
Trwyddot ti cefais ffordd trwy ffydd
I ddod i’r gras dwi’n sefyll ynddo,
Do, cefais ffordd trwy ffydd i ddod
I’r gras dwi’n sefyll ynddo.

Cytgan:
Iesu, Iesu, cwbwl ydyw gwaith dy law.
Iesu, Iesu, cwbwl ydyw gwaith dy law.

Pen 2:
Gwnes di arllwys dy ysbryd ynof fi,
Gwnes di arllwys dy ysbryd ynof fi,
Oherwydd ti, gorfoleddu wnai
Yn y gobaith roddaist i mi,
Ie, gorfoleddu wnai yn y gobaith
Roddaist i mi.

Cytgan

Coda opsiynol:
Beth bynnag ddaw i mi,
‘Cha’i ddim o’m siomi ynot ti,
Er fy mwyn fe roddaist
Ti dy hun
Yn aberth drosof fi.

O Rhuf.5 ad. 5

© 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn

PowerPoint PDF English Words MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • July 20, 2015