logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwna fi fel pren planedig, O fy Nuw

Gwna fi fel pren planedig, O fy Nuw,
yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw,
yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy,
yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy’.

Gad imi fyw, ynghanol pob rhyw bla,
dan gysgod clyd adenydd Iesu da;
a’m tegwch gwir fel olewydden wiw
o blaniad teg daionus Ysbryd Duw.

1 ANN GRIFFITHS, 1776-1805 2 ANAD.

(Caneuon Ffydd 756)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015