logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwir fab Duw

Gwir fab Duw, dyma ein cân o fawl.
Iesu, ein Duw, canwn i ti.
Tyred, Ysbryd ein Duw,
Rho fywyd yn y geiriau hyn.
Mae angylion y nef
Yn canu ein cân o fawl.

Fe’th folwn, fe’th folwn,
Fe’th folwn, addolwn di.
Fe’th folwn, addolwn di.

Gwir Fab Duw, dyma ein cân serch.
Iesu, ein Duw, canwn i ti.
Tyred, Ysbryd ein Duw,
Rho fywyd yn y geiriau hyn.
Mae angylion y nef
Yn canu ein cân o serch.

Fe’th garwn, fe’th garwn,
Fe’th garwn, addolwn di.
Fe’th garwn, addolwn di.

John Wimber: Son of God, cyfieithiad awdurdodedig: Casi Tomos
© Mercy Publishing/Thankyou Music 1981,1983. Gwein. Gan Copycare

(Grym Mawl 1: 147)

PowerPoint