logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwelwn Iesu

Gwelwn Iesu
Ar y groes yn diodde’n aberth yn ein lle –
Profi grym marwolaeth ddu a’r bedd.
Cododd eto’n fyw, ac aeth i’r nef!
Nawr, gwelwn Iesu:
Ar ddeheulaw Duw eisteddodd ‘lawr,
Ac mae’n eiriol trosom ni yn awr.
A’i air mae’n cynnal nef a daear lawr.

Mor ogoneddus wyt!
Disglair goncwerwr wyt!
Fe sethraist awdurdodau’r fall.
Mor ogoneddus wyt!
Disglair goncwerwr wyt!
Dinoethaist dy elynion oll.
Fe fwriwyd dan dy draed
Pob gwrthryfelwr gaed.
Ti yw’r Brenin, Mab y Duw byw!

(Grym Mawl 2: 142)

David W Morris a Mike Massa: We see Jesus (Colossians 2: 16)
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015