logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwelwn ffrwyth dy gariad tyner di, ein Tad

Cariad Duw (Tôn: Cymer ein calonnau, 75 Caniedydd yr Ifanc)

Gwelwn ffrwyth dy gariad tyner di, ein Tad,
yn y lliwiau cywrain sydd yn llonni’n gwlad;
Ti sy’n dwyn cyfaredd machlud ar ei awr,
Ti sy’n cynnau’r llusern sy’n arwyddo’r wawr;
gelwi y tymhorau, deuant yn eu pryd;
d’eiddo Di yw’r cynllun sy’n rhoi bod i’n byd;
diolch rown, O Arglwydd, wrth it ryngu’n bodd,
nad yn ôl ein haeddiant ni y daw pob rhodd.

Teimlwn hedd dy gariad pan ddaw d’ysbryd di
atom â’i atebion i’n gweddïau ni;
diolch am gael siarad gyda’r Un a ŵyr
ddyfnder y pryderon ddaw ymhlyg yr hwyr:
molwn di am estyn balm dy gariad hael
i adfywio’r clwyfus a grymuso’r gwael;
diolch rown, O Arglwydd wrth it ryngu’n bodd
nad yn ôl ein haeddiant ni y daw pob rhodd.

Rhannwn falm dy gariad pa le bynnag awn –
rhannu â chyd-ddynion o’th ystordy llawn,
rhannu gyda diolch am i’th Fab dy hun
glymu cwlwm cariad rhyngot Ti a dyn;
na foed inni laesu’r cwlwm glymodd ef
er mwyn dwyn ei deulu’n nes at deyrnas nef
diolch rown o Arglwydd wrth it ryngu’n bodd
nad yn ôl ein haeddiant ni y daw pob rhodd.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2016