logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwelwn ein Duw

Pwy all ddal y moroedd yn ei law?
Pwy all gyfri pob un gronyn baw?
Daw brenhinoedd, crynant ger ei fron,
Creadigaeth Duw yn dathlu’n llon.

Hwn yw ein Duw ar ei orsedd fry!
Deuwch ac addolwn!
Hwn yw yr Iôr – Brenin yr holl fyd!
Deuwch ac addolwn!

Pwy all gynnig cyngor iddo ef?
Pwy all herio ei orchmynion ef?
Pwy all ddysgu’r hollalluog un?
Pwy all fesur gweithiau’r dwyfol un?

Pwy a deimlodd boenau’r hoelion dur?
Baich ein pechod ar yr Iesu pur.
Y tragwyddol Dduw aeth lawr i’r bedd.
Iesu’n brenin, atgyfodwyd ef!

Ti sydd yn teyrnasu! (x8) /
(boed i’th Ysbryd lenwi’r byd)

Hwn yw ein Duw ar ei orsedd fry!
Deuwch ac addolwn!
Hwn yw yr Iôr – Brenin yr holl fyd!
Deuwch ac addolwn!
.
Behold our God: Meghan Baird, Jonathan Baird, Ryan Baird, and Stephen Altrogge.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dyfan Graves.
© 2011 Sovereign Grace Praise (BMI)/Sovereign Grace Worship (ASCAP). Sovereign Grace Music, rhan o Sovereign Grace Ministries. O ‘Risen’. Cedwir pob hawl. Hawlfraint rhyngwladol wedi ei sicrhau.  Gweinyddwyd gan Integrity Music

PowerPoint