logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwell dy drugaredd Di a’th hedd

Gwell dy drugaredd Di a’th hedd
Na’r byd, na’r bywyd chwaith;
Ac ni all angel gyfri’ eu gwerth
I dragwyddoldeb maith.

Ac mae pob peth yn eiddo im
Heb eisiau, a heb drai;
Ac nid oes diffyg ddaw i’r lle
Y ceffir dy fwynhau.

Mae pob dymuniad, a phob chwant,
Fyth yno’n eitha’ llawn;
A thystio’r wyf nad oes ond Duw
A’m gwna yn ddedwydd iawn.

Doed y tymestloedd penna’ ddêl,
Digonol gallu’r ne’;
A rhued moroedd dros y tir,
Anfeidrol yw Efe.

Mi waeddaf yn y storom fawr,
Dan donnau fwy na rhi’;
Ac esgyn wna fy nrylliog lef
I entrych nefoedd fry.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 47)

PowerPoint