logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwawriodd blwyddyn newydd eto

Gwawriodd blwyddyn newydd eto,
o’th drugaredd, Arglwydd cu;
llaw dy gariad heb ddiffygio
hyd yn hyn a’n dygodd ni:
cawsom gerdded yn ddiogel
drwy beryglon blwyddyn faith;
gwnaethost ti bob storm yn dawel
oedd yn bygwth ar y daith.

Dysg in fyw y flwyddyn yma
yng ngoleuni clir dy groes,
gad in dynnu at y noddfa
sydd yn gysgod drwy ein hoes;
boed grasusau pêr newyddion
gyda’r flwyddyn newydd hon
yn blaguro yn ein calon
nes dwyn nefoedd bur i’n bron.

PENAR, 1860-1918

(Caneuon Ffydd 91)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

 

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015