logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwaredwr y Byd

Tôn: Tŵr Gwyn (622 Caneuon Ffydd)

Caed cyfoeth gras y nefoedd
yn y crud,
a chariad Tad drwy’r oesoedd
yn y crud;
caed Duw’n ei holl ogoniant,
o fore dydd y trefniant
yn Eden gyda’i ramant
yn y crud;
caed cysgod croes ein pryniant
yn y crud.

Cyn dyfod dydd dy eni
Iesu da,
fe’th folwyd gan broffwydi
Iesu da,
yn D’wysog tangnefeddus,
yn Gyfaill i’r trallodus,
cyfiawnder iti’n wregys,
Iesu da,
ond trinwyd di’n ddirmygus
Iesu da.

Llawenydd sydd yn Seion
trwot Ti,
can’s talwyd ein dyledion
trwot Ti,
cawn gariad i’n harfogi,
cawn ffydd i’n cyfoethogi
a sicrwydd i’n gwroli
trwot Ti,
ond iti gael dy eni
ynom ni.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2016