logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwaith hyfryd iawn a melys yw

Gwaith hyfryd iawn a melys yw
moliannu d’enw di, O Dduw;
sôn am dy gariad fore glas,
a’r nos am wirioneddau gras.

Melys yw dydd y Saboth llon,
na flined gofal byd fy mron,
ond boed fy nghalon i mewn hwyl
fel telyn Dafydd ar yr ŵyl.

Yn Nuw fy nghalon lawenha,
bendithio’i waith a’i air a wna;
mor hardd yw gwaith dy ras, O Dduw,
a’th gyngor di, mor ddwfwn yw.

Mae gwir lawenydd ger dy fron
yn ffrydiau pur i lonni ‘mron;
ond mi gaf lawn ogoniant fry
pan buro gras fy nghalon i.

ISAAC WATTS, 1674-1748 cyf. DAFYDD JONES, 1711-77

(Caneuon Ffydd 18)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015