logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Grym y Gair a roed ar gerdded

Grym y Gair a roed ar gerdded
gam wrth gam drwy wledydd byd
wrth i bobloedd glywed datgan
yn eu geiriau’r hanes drud:
diolch wnawn am bob cyfieithydd
a gysegrodd ddawn a gwaith
er rhoi allwedd porth dy Deyrnas
yn nhrysorfa llawer iaith.

Grym y Gair a ysbrydolodd
ein cyfieithwyr cynnar ni,
a’u holynwyr fu’n mireinio’r
golau ar dy eiriau di:
clyw ein diolch am eu llafur
yn cysegru addysg oes
er mwyn tywys eu cydwladwyr
tua’r llwybyr at dy Groes.

Grym y Gair sydd eto’n cerdded
heddiw, drwy gyfryngau’n dydd,
ac mae’n hiaith yn dweud o’r newydd
hen, hen stori seiliau’n ffydd.
Diolch fo am bawb sy’n trosi
a dehongli ym mhob tir
ac sy’n hau hyd erwau’r rhyngrwyd
rym y Gair a gwefr y gwir.

Geiriau: Siôn Aled Owen
Tôn: Blaenwern
Emyn a gomisiynwyd ar gyfer achlysur dathlu 400 mlwyddiant Beibl Parry Davies 1620 ac a ganwyd yn Tabernacl, Caerdydd, mis Mawrth 2020.

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Rhys Llwyd,
  • March 11, 2020