logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Grist Gorchfygwr, byth deyrnasi

Grist Gorchfygwr, byth deyrnasi,
Ceidwad, Brenin Glân,
Iôr y nef, Ti a’n cynheli,
Gwrando ar ein cân:

Rhown y goron ar dy ben,
Yn fawr dy glod, yn fythol fyw.

Gair mewn cnawd, y gwir ddatguddi,
Mab y Dyn, ein brawd;
Nerth a mawredd Ti a’u cuddi
Trwy dy eni tlawd.

Gwas dioddefus wyt a wawdiwyd,
Croeshoeliedig Un,
Angau trwy Dy groes a faeddwyd,
Cymod Duw a dyn.

Frenin offeiriadol hynod
Ar dy orsedd fry,
Ni all uffern, angau, pechod,
Fygu’n moliant ni.

Seinia mawl ein llais a’n calon,
Drwy yr orsedd maith,
Syllwn ar dy wedd yn gyson,
Canwn am dy waith.

(Grym Mawl 2: 17)

Michael Saward: Christ Triumphant, Ever Reigning, © Jubilate Hymns Cyfieithiad Awdurdodedig: Arwel Thomas

Defnyddir trwy ganiatâd.

PowerPoint