logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gras tu hwnt i’m deall i

Gras tu hwnt i’m deall i,
Yn rhad a helaeth er fy mai
Alwodd fi ers cyn i’m fod
I roi i Ti y mawl a’r clod.

Gras rhyfeddol, dwfn a glân
Welodd ddyfnder f’angen i,
Yn derbyn baich fy mhechod i
A’m gwisgo â’th gyfiawnder di.

Gras,
A dalodd y pris i’m dwyn i yn fyw,
Gras,
Fy ngwisgo â nerth a minnau yn wan,
Gras,
I’m tywys i’r nef, i weled dy wedd,
A chanaf byth am gyfoeth mawr dy ras.

Gras mor rhadlon, Gras mor gryf
Yn mynnu newid ynof fi,
Dwyn fy malchder at Dy draed
I garu’r groes, lle collaist waed.

Gras ddiddiwedd, hyd fy oes
Yn fy nghynnal â dy nerth,
A phan fo’r dyddiau hyn ar ben
Bydd mawl i Ti tu hwnt i’r llen.

Grace Unmeasured, Bob Kauflin: © Sovereign Grace Music (Defnyddiwyd drwy ganiatâd)
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 16, 2015