logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gras, O’r fath beraidd sain

Gras, O’r fath beraidd sain,
i’m clust hyfrydlais yw:
gwna hwn i’r nef ddatseinio byth,
a’r ddaear oll a glyw.

Gras gynt a drefnodd ffordd
i gadw euog fyd;
llaw gras a welir ymhob rhan
o’r ddyfais hon i gyd.

Gras nododd f’enw i
Yn Llyfr Bywyd Duw;
A gras a’m rhoddodd i i’r Oen,
Fu farw im gael byw.

Gras ddaeth â’m traed yn ôl
i lwybrau’r nefoedd lân;
rhydd gymorth newydd im bob awr
i fyned yn y blaen.

Gras ddysgodd gweddi im,
A thoddi nghalon ddu,
Gras gadwodd f’enaid hyd yn hyn,
A byth ni’m gollwng i.

Gras a gorona’r gwaith
draw mewn anfarwol fyd;
a chaiff y clod a’r moliant byth
gan luoedd nef ynghyd.

PHILIP DODDRIDGE, 1702-51 cyf. GOMER, 1773-1825

(Caneuon Ffydd 161; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 03)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015