logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gorfoledd i’n calon wrth fynd ar ein taith

Diolch am fyd natur (Tôn: Plwyf Llangeler)

Gorfoledd i’n calon wrth fynd ar ein taith,
yw’r sicrwydd, Dad nefol, dy fod wrth dy waith;
tydi’n dy ddoethineb sy’n llunio a gwau
patrymau byd natur, a Thi sy’n bywhau;
O Roddwr pob harddwch, diolchwn o hyd
am feddwl amdanom wrth lunio dy fyd.

Hyfrydwch i’n llygaid yw hydref y dail,
dangosant ysblander dy arlwy di-ail;
‘r ôl gaeaf o orffwys, daw ernes o fro
doreithiog ei blagur a blodau’n eu tro;
am haf o brydferthwch datganwn dy glod,
edmygwn y cyfoeth sy’n arllwys o’th god.

Tangnefedd i’n henaid yw murmur y nant
wrth lifo dros raean yn esmwyth drwy’r pant;
mae ymchwydd y tonnau’n amlygu dy chwaeth
wrth ddiwel ei hewyn ar dywod y traeth;
tynerwch y gwlithyn a sisial y glaw
sy’n dangos addfwynder digymar dy law.

‘Chwanegiad i’n pleser yw’r grug ar y bryn,
yr eithin ar rostir a’r alarch ar lyn;
daw adar i’r berllan â’u melodi cain
ac adlais o’th oslef a glywn ymhob sain;
gogonaint y cread a ddaw trwot Ti;
rhown foliant am iti ei rannu â ni.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint