logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gorffennwyd! Y Meseia roes

Gorffennwyd! Y Meseia roes
Ei fywyd dros bechodau’r byd;
Mae rhyddid cyflawn drwy ei waed –
Cyflawnwyd diben aberth drud.
Gorffennwyd! Talwyd dyled lawn
Brynhawn drwy aberth Calfari.
Gwnaed perffaith Iawn drwy waed yr Oen,
Bu farw Iesu drosom ni.

Fe rwygwyd llen y deml fu,
Agorwyd ffordd i’r nefoedd fry;
Trwy Grist fe chwalwyd pob rhyw fur,
Mae croeso’i bechaduriaid lu.
Cyflawnwyd y cysgodion gaed;
Pob gair proffwydol ddaeth yn wir.
Fe waedodd Oen dibechod Duw
Gwaed y cyfamod newydd yw.

Teyrnasiad pechod ddaeth i ben,
Agorwyd pyrth y bedd i ni.
A satan ar ei orsedd ffug
A lyncwyd; trechwyd angau du.
Ni raid wynebu dicter Duw,
Fe’i gwnaed yn felltith yn fy lle.
Gwêl acw’r addfwyn Oen di-fai
‘Gorffennwyd!’, clyw ei olaf lef.

Yng Nghrist, mae croeso’i bawb a dry;
Cawn wisgo gŵn cyfiawnder gwir.
Ei haeddiant Ef a roir i ni,
Mae’r llwybr nawr i’r nef yn glir.
Marwolaeth, pechod, uffern ddu,
Fe’i sathrwyd oll gan ras y nef.
Y gwaed yn unig blediwn ni
Wrth dderbyn ffrwyth ei aberth Ef.

(Grym Mawl 2: 157)

Christopher Idle: Yes, finished! The Messiah dies,
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015