logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Golwg, Arglwydd, ar dy ŵyneb

Golwg, Arglwydd, ar dy ŵyneb
sydd yn codi’r marw o’r bedd;
mae agoriad nef ac uffern
yna i’w deimlo ar dy wedd;
gair dy ras, pur ei flas,
nawr a ddetgly ‘nghalon gas.

Arglwydd, danfon dy leferydd
heddiw yn ei rwysg a’i rym;
dangos fod dy lais yn gryfach
nag all dyn wrthsefyll ddim;
cerdd ymlaen, nefol dân,
cymer yma feddiant glân.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 578; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 441)

PowerPoint