logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Goleuni y Byd

Goleuni y Byd
A greodd y wawr,
A’r sêr sydd mewn oriel
O’i wyrthiol waith mawr.
Pob planed sy’n troi,
drwy’i Air maent yn bod,
I ddangos ei fawredd a chanu ei glod.

Dewch, dewch bobl y byd
Gwelwch oleuni ein Duw,
Clod, clod, rhowch iddo Ef
Credwch yn wir, credwch drwy ffydd
Yn ei drugaredd a’i gariad.

Goleuni y byd
Ddisgleiriodd mewn dyn,
Fe droediodd fynyddoedd
a greodd ei hun.
Fel gwas y daeth Ef,
I’r byd daeth fel Oen,
I rannu ein gofid a phrofi ein poen.

Goleuni i’r Byd,
Cyfiawnder i bawb
Oedd neges yr Arglwydd,
Gwaredwr y tlawd.
Ar groes hoeliwyd Ef,
Yn felltith fe’i gwnaed
I achub ei bobl tywalltodd ei waed.

Goleuni y Byd,
Disgleirio mae’n awr,
Gan gynnig maddeuant i bobl y llawr.
Derbyniwch yn wir
Ei roddion hael Ef,
Dewch mas o’r tywyllwch at orsedd y nef.

The Light of the World: Stuart Townend & JK Jamieson, Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwenda Jenkins
© ac yn y cyfieithiad hwn 2009 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

PowerPoint