logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Golau haul, a sêr a lleuad

Golau haul, a sêr a lleuad,
popeth da a hardd ei lun,
rhyfeddodau mawr y cread,
dyna roddion Duw ei hun.

Clod i’r Arglwydd, clod i’r Arglwydd,
am bob rhodd i’n cadw’n fyw,
O moliannwn a chydganwn
am mai cariad ydyw Duw.

Ffurf a lliw y coed a’r blodau,
ffrwythau’r ddaear i bob un,
holl fendithion y tymhorau,
dyna roddion Duw ei hun.

Dawn i feddwl ac i gofio,
dawn yr artist i greu llun,
y pum synnwyr i’w defnyddio,
dyna roddion Duw ei hun.

Gair y bywyd i’n goleuo,
y newyddion da i ddyn,
Crist ein Ceidwad, diolch iddo,
dyna roddion Duw ei hun.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 226)

PowerPoint