logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gobaith mawr y mae’r addewid

Gobaith mawr y mae’r addewid
wedi ei osod draw o’m blaen;
hwn a gynnal f’enaid egwan
rhag im lwfwrhau yn lân.

Gobaith, wedi rhyfel caled,
y caf fuddugoliaeth lawn;
gobaith bore heb gymylau
ar ôl noswaith dywyll iawn.

Gobaith, ar ôl maith gystuddiau,
y caf fod heb boen na chlwy’;
gobaith, yn y ffwrnais danllyd,
y’m ceir heb fy sorod mwy.

Gobaith, yn yr anial garw,
y cyrhaeddaf Ganaan wlad;
wedi crwydro ‘mhell o gartref
gobaith dod i dŷ fy Nhad.

JOHN JONES, 1797-1857

(Caneuon Ffydd 778)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015