Mor fawr y bwlch a fu unwaith rhyngom,
Mor fawr y mynydd tu hwnt i mi,
Ac mewn anobaith, fe drois i’r nefoedd
gan ddweud dy enw yn y nos;
A thrwy’r tywyllwch, daeth dy haelioni
chwalodd gysgodion f’enaid i,
Y gwaith ’orffenwyd, y diwedd seliwyd
Iesu Grist, fy ngobaith byw.
Pwy a ddychmygai y fath drugaredd?
Pa galon dreiddia’r ddiddiwedd ras?
Duw yr holl oesoedd ddaeth o’r gogoniant
i gario ’mai a ’nghywilydd i.
Y groes lefarodd, rwyf wedi’m maddau,
Brenin Brenhinoedd galwodd fi,
Hyfryd Waredwr, i mi’n dragwyddol
Iesu Grist, fy ngobaith byw.
Corws 1
Haleliwia, clod i’r un rhyddhaodd fi,
Haleliwia, nawr o angau rwyf yn rhydd.
Chwalaist bob un gadwyn fu,
Mae achubiaeth ynot ti,
Iesu Grist, fy ngobaith byw.
(Ail Adrodd – Corws)
Pan ddaeth y bore, seliwyd addewid,
Dy gorff, fu farw, a ddaeth yn fyw
Ac o’r tawelwch, y Llew a rhuodd,
does gan y bedd ddim hawl arna i
Iesu, dy fuddugoliaeth di.
Corws 1
Corws 2
Haleliwia, clod i’r un rhyddhaodd fi,
Haleliwia, nawr o angau rwyf yn rhydd.
Chwalaist bob un gadwyn fu,
Mae achubiaeth ynot ti,
Iesu Grist, fy ngobaith byw
Iesu Grist, fy ngobaith byw,
O Dduw, ti yw fy ngobaith byw.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arwel E. Jones
LIVING HOPE gan JOHNSON/WICKHAM
Hawlfraint © 2018 Bethel Music Publishing/Sing My Songs/Phil Wickham Music/Simply Global Songs (Gwein. Song Solutions www.songsolutions.org) Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
CCLI # 7153659
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint