Glynwn gyda’r Iesu,
Cyfaill dynol-ryw;
Unwn oll i’w garu,
Gan mor annwyl yw;
Ffyddlon yw i’n cofio
Â’i ddaioni drud:
Glynwn ninnau wrtho,
Cyfaill gorau’r byd.
Glynwn gyda’r Iesu,
Mae i ni yn frawd;
Daeth yn un o’n teulu,
Bu fel ni yn dlawd;
Atom i’n cysuro
Daeth i lawr o’r nef;
Mae’n ein cofio eto,
Cofiwn ninnau ef.
Glynwn gyda’r Iesu,
Ef yw’n Ceidwad ni;
Er ein llwyr waredu
Aeth i Galfari;
Do, bu farw yno
Ar y greulon groes:
Glynwn ninnau wrtho
Drwy holl ddyddiau’n hoes.
Ben Davies (1864-1937)
PowerPoint