logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Glanha dy Eglwys, Iesu mawr

Glanha dy Eglwys, Iesu mawr
ei grym yw bod yn lân;
sancteiddia’i gweddi yn ei gwaith
a phura hi’n y tân.

Na chaffed bwyso ar y byd
nac unrhyw fraich o gnawd:
doed yn gyfoethog, doed yn gryf
drwy helpu’r gwan a’r tlawd.

Na thynned gwychder gwag y llawr
ei serch oddi ar y gwir;
na chuddied addurniadau dyn
ddwyfoldeb d’eiriau pur.

Heb nawdd na nerth, ond tarian ffydd
a chledd yr Ysbryd Glân,
byth boed rhinweddau angau’r groes
o’i chylch yn fur o dân.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 602)

PowerPoint