logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Glân gerwbiaid a seraffiaid

Glân gerwbiaid a seraffiaid
fyrdd o gylch yr orsedd fry
mewn olynol seiniau dibaid
canant fawl eu Harglwydd cu:
“Llawn yw’r nefoedd o’th ogoniant,
llawn yw’r ddaear, dir a môr;
rhodder iti fythol foliant,
sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr.”

Fyth y nef a chwydda’r moliant,
uwch yr etyb daear fyth:
“Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd,” meddant,
“Dduw y lluoedd, Nêr di-lyth!
Llawn yw’r nefoedd o’th ogoniant,
llawn yw’r ddaear, dir a môr;
rhodder iti fythol foliant,
sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr.”

Gyda’r seraff gôr i fyny,
gyda’r Eglwys lân i lawr,
uno wnawn fel hyn i ganu
anthem clod ein Harglwydd mawr:
“Llawn yw’r nefoedd o’th ogoniant,
llawn yw’r ddaear, dir a môr;
rhodder iti fythol foliant,
sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr.”

RICHARD MANT, 1776-1848 (Round the Lord in glory seated) cyf. ALAFON (Owen Griffith Owen) , 1847-1916

(Caneuon Ffydd 30)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan