logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gariad dwyfol, uwch bob cariad

Gariad dwyfol uwch bob cariad,
Londer nefoedd, tyrd i lawr;
Ynom ninnau gwna dy drigfa,
A chorona d’arfaeth fawr;
Iesu, llawn tosturi ydwyt,
Cariad annherfynol pur,
Moes i ni dy iachawdwriaeth,
Tyrd i esmwytháu ein cur.

Tyrd, anfeidrol i waredu,
Rho dy ras i’th bobl i gyd;
Dychwel atom ni yn ebrwydd,
Yn dy demlau trig o hyd;
Mynnem beunydd dy fendithio,
Megis yn dy eglwys fry,
I’th foliannu fyth heb dewi,
Morio yn dy gariad cry’.

Gorffen mwy dy gread newydd,
Pur di-fai y byddom ni,
Dyro weld dy iachawdwriaeth
Wedi’i hadfer ynot Ti;
Cawn ein gwisgo â gogoniant
Nes meddiannu’r nefol wlad,
Iidio’n coron ac ymgolli
Mewn rhyfeddod a mawrhad.

Love divine, Charles Wesley; cyfieithiad awdurdodedig: Gwilym R. Tilsley

(Caneuon Ffydd: 731; Grym Mawl 1: 113)

PowerPoint