Ganol gaeaf noethlwm
cwynai’r rhewynt oer,
ffridd a ffrwd mewn cloeon
llonydd dan y lloer:
eira’n drwm o fryn i dref,
eira ar dwyn a dôl,
ganol gaeaf noethlwm
oes bell yn ôl.
Metha nef a daear
gynnwys ein Duw;
ciliant hwy a darfod
pan fydd ef yn llyw:
ganol gaeaf noethlwm
digon beudy trist
i’r Arglwydd hollalluog,
Iesu Grist.
Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
Pe bawn fugail rhoddwn
gorau’r praidd i gyd;
pe bawn un o’r doethion
gwnawn fy rhan ddi-goll;
ond pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll.
CHRISTINA ROSSETTI, 1830-94 cyf. SIMON B. JONES, 1894-1964 Defnyddir y geiriau Cymraeg drwy ganiatâd Jon Meirion Jones
(Caneuon Ffydd: 466)
PowerPoint