logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fyth bythol Iesu

Pennill 1
Fy nghân o fawl a fydd fyth bythol Iesu,
Fy nghadarn sylfaen ar dywod brau;
Gobaith a nerth drwy wae pob ofn a methiant,
Pob siomedigaeth ddaw i’m rhan
Ei gariad pur a’m cwyd i’r lan.

Cytgan
Felly trwy fy oes rhydd fy enaid fawl
I’r Iôr, fyth bythol Iesu.
Er pob storm a braw
Cadarn yw Ei law,
Ef yw’r Iôr, fyth bythol Iesu.

Pennill 2
Fy llawen floedd a fydd fyth bythol Iesu
Ddioddefodd trosof, palmantodd ffordd
Ei fyw yn rhodd, Ei farw’n bridwerth gwerthfawr
Yr euog un gaiff fynd yn rhydd
Fe dry ein nos yn ’sblennydd ddydd.

Cytgan
Felly trwy fy oes rhydd fy enaid fawl
I’r Iôr, fyth bythol Iesu.
Er pob storm a braw
Cadarn yw Ei law,
Ef yw’r Iôr, fyth bythol Iesu.

Pennill 3
Fy olaf chwyth a fydd fyth bythol Iesu
 chysgodion angau’n ’mestyn draw
Fy Iôr a’m Ffrind
Cydymdaith fydd drwy’r dyffryn;
Â’m hannwyl geraint fydd o’m hôl
Ei law a’m tywys fry i’w gôl.

Cytgan 2
Felly trwy fy oes rhydd fy enaid fawl
I’r Iôr, fyth bythol Iesu.
Er pob storm a braw
Cadarn yw Ei law,
Ef yw’r Iôr, fyth bythol Iesu.
Wrth hardd byrth yn Ne’ canaf gân o fawl
I’r Iôr, fyth bythol Iesu.
Pob un gofid ffodd,
Gartre! – wrth fy modd
Gyda’m Iôr, fyth bythol Iesu
Gyda’m Iôr, fyth fythol Iesu
Gyda’m Iôr, fyth fythol Iesu

Fyth bythol Iesu
CCLI # 7172015
FOREVER JESUS PAPA/TOWNEND
© 2019 Getty Music Hymns and Songs (Gwein. gan Music Services, Inc.) / Love Your Enemies Publishing (Gwein. gan Music Services, Inc.) / Townend Songs (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
cyf. Linda Lockley

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 24, 2021