logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy nymuniad, paid â gorffwys

Fy nymuniad, paid â gorffwys
Ar un tegan is y nef;
Eto ‘rioed ni welodd llygad
Wrthrych tebyg iddo Ef:
Cerdda rhagot,
‘Rwyt ti bron a’i wir fwynhau.

Ffárwel, ffárwel oll a welaf,
Oll sydd ar y ddae’r yn byw;
Gedwch imi, ond munudyn,
Gael yn rhywle gwrdd â’m Duw:
Dyna leinw
‘Nymuniadau oll yn un.

D’air a wnaeth y moroedd helaeth,
D’air a wnaeth y ddaear fawr,
D’air a greodd lu’r ffurfafen
Sydd yn hongian uwch y llawr:
‘Mysg a greaist,
‘Does gyffelyb it dy Hun.

Tyrd, yr Hwn wyt yn hawddgarach Na’th greaduriaid maith eu rhi’;
Pryd y doi, y gwnei dy drigfan
Bob munudyn gyda mi?
Tyrd yn fuan,
Arglwydd, at y sawl a’th gâr.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint