logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Nuw, uwchlaw fy neall

Fy Nuw, uwchlaw fy neall
Yw gwaith dy ddwylo i gyd;
Rhyfeddod annherfynol
Sy ynddynt oll ynghyd:
Wrth weled dy ddoethineb,
Dy allu mawr, a’th fri,
Mi greda’ am iechydwriaeth
Yn hollol ynot ti.

Fy enaid, gwêl fath noddfa
Ddiysgog gadarn yw,
Ym mhob rhyw gyfyngderau, Tragwyddol ras fy Nuw:
Ac yma boed fy nhrigfan,
Boed fy nhawelaf nyth,
Yn nyfnder cyfyngderau,
Sef dan dy adain byth.

Fe all i’r lan fy nghodi
O ddyfnder llwch y byd,
Gwneud i bob drwg a gwrddwyf
Droi er daioni i gyd,
Rhoi olew o lawenydd
Yn wastad ar fy mhen,
A’m dwyn trwy foroedd dyfnion
I ganol nefoedd wen.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 28, 2017