logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Nuw, Fy Nuw, fy Mhriod wyt

Fy Nuw, Fy Nuw, fy Mhriod wyt a’m Tad,
Fy ngobaith oll, a’m hiachawdwriaeth rad,
Ti fuost noddfa gadarn i myfi,
Gad i mi eto weld dy wyneb Di.

Nac aed o’th gof dy ffyddlon amod drud,
Yn sicir wnaed cyn rhoi sylfeini’r byd;
Ti roist im yno drysor maith di-drai;
Gad imi heddiw gael dy wir fwynhau.

O! Cofia’r hedd rai prydiau roist i lawr
I’m henaid trist mewn cyfyngderau mawr;
O! edrych eto, mae fy enaid gwan
Gan syched mawr ar drengi yn y fan.

Nid rhaid i Ti ond dywedyd gair o hedd,
Fy syched a dry’n dawel nefol wledd;
Fe dderfydd gofid, derfydd pob rhyw wae,
Fy nhristwch lyncir yn dy wir fwynhau.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 371)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015