logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu

Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu,
boed clod i’th enw byth,
boed dynion yn dy foli
fel rhif y bore wlith;
O na bai gwellt y ddaear
oll yn delynau aur
i ganu i’r hwn a anwyd
ym Methlem gynt o Fair.

O Iesu, pwy all beidio
â’th ganmol ddydd a nos?
A phwy all beidio â chofio
dy farwol, ddwyfol loes?
A phwy all beidio â chanu
am iachawdwriaeth rad
ag sydd yn teimlo gronyn
o rinwedd pur dy waed?

O Arglwydd, rho im dafod
na thawo ddydd na nos
ond dweud wrth bob creadur
am rinwedd gwaed y groes;
na ddelo gair o’m genau
yn ddirgel nac ar goedd
ond am fod Iesu annwyl
yn wastad wrth fy modd.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 330; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 307)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015