logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Nhad o’r nef, O gwrando ‘nghri

Fy Nhad o’r nef, O gwrando ‘nghri:
un o’th eiddilaf blant wyf fi;
O clyw fy llef a thrugarha,
a dod i mi dy bethau da.

Nid ceisio ‘rwyf anrhydedd byd,
nid gofyn wnaf am gyfoeth drud;
O llwydda f’enaid trugarha,
a dod i mi dy bethau da.

Fe all mai’r storom fawr ei grym
a ddaw â’r pethau gorau im;
fe all mai drygau’r byd a wna
i’m henaid geisio’r pethau da.

Fy Nhad o’r nef, O gwrando ‘nghri
a dwg fi’n agos atat ti,
rho imi galon a barha
o hyd i garu’r pethau da.

MOELWYN, 1866-1944

(Caneuon Ffydd 691)

PowerPoint