logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Nhad, dy gariad di

Fy Nhad, dy gariad di
A dalodd drosof fi,
I mi, yr euog un
Fynd yn rhydd!

Rhyfeddod nef, o’r fath gariad,
Ei fywyd Ef drosof fi.
O gariad rhad – marw yn fy lle,
I mi gael byw, i mi gael byw.

Yr Un ar groes o bren,
Fab Duw, wrthodwyd.
Ond o, ei waed a roes
Drosof fi!

Y cariad sy’n ddi-drai,
A’i lif fel afon.
Y dŵr all dy lanhau
A’th fywhau!

Graham Kendrick: My Lord, what love is this, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1989 Make Way Music,.Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music., Defnyddir trwy ganiatâd.

(Grym Mawl 1: 121)

PowerPoint