logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Ngwaredwr yw Ef (Mighty to Save)

Syched am dosturi
A chariad fel y moroedd
O! trugarha fy Nuw.
Syched am faddeuant,
Am waredigaeth gyflawn
Cenhedloedd plygwch.

Cytgan

’Ngwaredwr, brenin y brenhinoedd
Ceidwad cadarn yw Ef,
Canwch glod iddo Ef
Byth bythoedd, ceidwad y cyfamod.
Fe yw concwerwr y bedd.

Cymer fi fel wyf i
Gyda’m holl ofidion
Tywallt arnaf i.
Dilynaf di drwy ’mywyd,
Fy nghorff a’m henaid hefyd
I ti fe ildiaf.

Pont

Bydd yn olau yn y twyllwch du.
Gwaeddwn am dy glod ac am dy fawredd di.

Ben Fielding a Reuben Morgan, cyf. Rhys Llwyd, Menna Machreth, Elain Treharne

 Fy Ngwaredwr yw Ef © 2006 Hillsong Music Publishing (APRA) PO Box 1195 Castle Hill NSW 1765 Australia PH +61 2 8853 5353 FAX +61 2 8846 4625 E-bost: publishing@hillsong.com

PowerPoint