logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy ngorchwyl yn y byd

Fy ngorchwyl yn y byd
yw gogoneddu Duw
a gwylio dros fy enaid drud
yn ddiwyd tra bwyf byw.

Fe’m galwyd gan fy Nuw
i wasanaethu f’oes;
boed im ymroi i’r gwaith, a byw
i’r Gŵr fu ar y groes.

Rho nerth, O Dduw, bob dydd
i rodio ger dy fron,
i ddyfal ddilyn llwybrau’r ffydd
wrth deithio’r ddaear hon.

Rhof arnat ti fy mhwys
rhag imi wyro o’m lle;
dysg im weddïo a gwylio’n ddwys
nes gorffwys yn y ne’.

CHARLES WESLEY, 1707-88 (A charge to keep I have) cyf. W. O. EVANS, 1864-1936

(Caneuon Ffydd 673)

PowerPoint

Geiriau Saesneg

A charge to keep I have,
a God to glorify,
a never-dying soul to save,
and fit it for the sky.

To serve the present age,
my calling to fulfill,
O may it all my pow’rs engage
to do my Master’s will!

Arm me with watchful care
as in Thy sight to live,
and now Thy servant, Lord, prepare
a strict account to give!

Help me to watch and pray,
and still on Thee rely,
O let me not my trust betray,
but press to realms on high.