logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy mwriad i yw dy ddilyn di

Fy mwriad i yw dy ddilyn di
Drwy gydol fy mywyd.
Fy mwriad i yw dy ddilyn di
Tra byddaf fi byw.
Rhoddaf fy hun yn llwyr
I bwrpas sydd o fudd tragwyddol.
Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di.

Gweithiaf i ti ag arian ac aur
Drwy gydol mywyd
Gweithiaf i ti ag arian ac aur
Tra byddaf fi byw ,
Rhoddaf fy hun yn llwyr
I bwrpas sydd o fudd tragwyddol.
Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di.

Dangos di i mi
Dy ewyllys di;
Dangos di y ffordd
Ac fe’th ddilynaf di.
(Ailadrodd)

Rwyf i am weld y Deyrnas yn dod
Drwy gydol fy mywyd.
Rwyf i am weld y Deyrnas yn dod
Tra byddaf fi byw.
Rhoddaf fy hun yn llwyr
I bwrpas sydd o fudd tragwyddol.
Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di.

Rwyf i am weld yr lesu’n dod ‘nôl
O tyred, fy Arglwydd.
Rwyf i am weld yr lesu’n dod ‘nôl
Fy Mrenin, o clyw!
Rhoddaf fy hun yn llwyr
I bwrpas sydd o fudd tragwyddol.
Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di.

I want to serve the purpose of God, Mark Altrogge. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© People of Destiny/Thankyou Music 1982. Gwein. gan Copycare

(Grym Mawl 1: 73)

PowerPoint