logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Iesu yw fy Nuw

Fy Iesu yw fy Nuw,
Fy noddfa gadarn gref;
Ni fedd fy enaid gwan,
Ddim arall dan y nef;
Mae Ef ei Hun a’i angau drud,
Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd.

Fy nymuniadau i gyd
Sy’n cael atebiad llawn,
A’m holl serchiadau ‘nghyd
Hyfrydwch nefol iawn,
Pan fyddwy’n gweld wrth olau’r wawr,
Mai eiddof fi fy Arglwydd mawr.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint