logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Iesu, ‘Ngwaredwr

Fy Iesu, ‘Ngwaredwr,
Arglwydd ‘does neb fel ti’n
Deilwng yn wir o’m moliant i;
Rhyfeddol yw dy gariad cryf.

Fy nghysur, fy nghysgod,
Ti yw fy noddfa a’m nerth.
Popeth sy’n bod, o dan y rhod,
Uned i’w addoli ef.

Bloeddiwch i Dduw’r ddaear oll, cenwch ‘nawr.
Nerth a gogoniant, i’th enw rhown fawl.
Plyga’r mynyddoedd a rhua’r môr,
Moli wnant d’enw di.

Fe orfoleddaf oherwydd dy waith;
Fe’th garaf, fy Arglwydd, i ddiwedd y daith;
‘Does dim yn debyg i’r trysor sydd ynot ti.

Darlene Zschech : My Jesus, my saviour, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1993 Darlene Zschech/ Hillsongs, Australia/ Kingsway’s Thankyou Music

(Grym Mawl 2:100)

PowerPoint