logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Iesu fe’th garaf

Fy Iesu, fe’th garaf, cans eiddof wyt ti;
Deniadau fy mhechod – gwrthodaf eu cri;
Fy ngrasol Waredwr, Ti yw fy Arglwydd mawr,
Os bu imi’th garu erioed, caraf nawr.

Fy Iesu, fe’th garaf cans Ti’m ceraist i,
Gan brynu fy mhardwn ar groes Calfari;
Am golli dy waed yn ddiferion coch i’r llawr
Os bu imi’th garu erioed, caraf nawr.

Mewn nefol drigfannau fy ngorchwyl a fydd
D’addoli byth bythoedd, a’m henaid yn rhydd;
A chanaf bryd hynny yn nhragwyddoldeb mawr:
Os bu imi’th garu erioed, caraf nawr.

R Featherstone: My Jesus I love Thee, Cyfieithiad awdurdodedig: Dafydd M. Job

(Grym Mawl 2: 98)

PowerPoint