logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy holl ffyrdd, ein holl bryd

Fy holl ffyrdd, ein holl bryd,
Roedd ôl llaw Duw i’w weld yn hyn i gyd,
Ond mynnom guddio
Delw’r Duw a greodd lun ein byd:
O! dychwel Dduw i’n ffordd o fyw.

Trwy Dduw, trwy Dduw,
Daw’r hen yn newydd trwy Dduw;
Bu farw fy Iôr ar groes,
Fe’m cymodwyd i:
Daw’r hen yn newydd yn Nuw.

Trwy’r Ysbryd Glân, Duw Ei Hun,
Fe fynni weld dy Fab ym mywyd dyn.
Ei fywyd sy’n
Ein harwain trwy faddeuant atat ti,
Yn llwyr a llawn, trwy groeso’r Iawn.

(Grym Mawl 2: 3)

Steve James: All my ways, Cyfieithiad Awdurdodedig: Tudur Hallam
Hawlfraint © Steve James/Jubilate Hymns

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 10, 2015