logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy ffrind a’m Iôr

Fy ffrind a’m Iôr
Melysach serch na mêl,
Fe’m cwrdd lle’r wyf yn awr.
Beth alla’i wneud?
Ymgrymaf ger dy fron,
Dy wedd sy’n drech na mi.

Fe alwaf Iôr ar d’enw di,
Dy haeddiant yw y clod i gyd.
A byddaf byw yn llwyr i ti –
Dy haeddiant yw y clod i gyd.

Bod gyda thi
Yw fy nymuniad i;
Disgleiria trwof fi.
Rhoist fywyd im
Ond fe’th groeshoeliwyd di
Yn aberth drosof fi.

Cyfieithiad Awdurdodedig:Hywel Rhys Edwards, My friend and king: James Taylor
© 1997 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 95)

PowerPoint