logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes

Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
‘does arall a’th gyfyd o ddyfnder dy loes;
offrymodd ei hunan yn ddifai i Dduw,
yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw.

Mae munud o edrych ar aberth y groes
yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes;
mae llewyrch ei ŵyneb yn dwyn y fath hedd
nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd.

WILLIAM EDWARDS, 1773-1853

(Caneuon Ffydd 528)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015