logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy enaid, gogonedda

Fy enaid, gogonedda
yr Arglwydd sy’n y nef,
â’th ddoniau oll bendithia
ei enw sanctaidd ef;
mae’n llwyr ddileu dy gamwedd,
mae’n abal i’th iacháu,
dy wared o’th anwiredd
mae’r Duw sy’n trugarhau.

Yn eiddot mae bendithion
di-drai yr uchel Iôr,
tangnefedd fel yr afon,
cyfiawnder fel y môr:
daw rhiniol nerth y nefoedd
i gadarnhau dy ffydd,
a grym Cynhaliwr oesoedd
i’th ddal o ddydd i ddydd.

Cei ras i gario croesau
a dal dy lesgedd dwys;
pan fyddi yn dy ofnau
bydd ef yn dal y pwys:
a phan ddaw dydd dy symud
o’th babell ar y llawr
cei aros mwy yng ngwynfyd
ei dragwyddoldeb mawr.

W RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd 188)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016