logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy enaid, bendithia yr Arglwydd

Fy enaid, bendithia yr Arglwydd,
a chofia’i holl ddoniau o hyd,
maddeuodd dy holl anwireddau,
iachaodd dy lesgedd i gyd;
gwaredodd dy fywyd o ddistryw;
â gras y coronodd dy ben,
diwallodd dy fwrdd â daioni:
atseinier ei fawl hyd y nen.

Trugarog a graslawn yw’r Arglwydd,
hwyrfrydig i lid i roi lle;
nid byth y mae’n cadw digofaint,
nid byth yr ymryson efe;
fel tad wrth ei blant y tosturia,
mae’n cofio mai llwch ydynt hwy;
O f’enaid, bendithia yr Arglwydd,
bendithia yr Arglwydd byth mwy.

NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)

(Caneuon Ffydd 102)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

 

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015