logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fry yn dy nefoedd clyw ein cri

Fry yn dy nefoedd clyw ein cri,
pob gras a dawn sydd ynot ti;
nac oeda’n hwy dy deyrnas fawr,
O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Nid aeth o’n cof dy wyrthiau gynt,
y sanctaidd dân a’r bywiol wynt;
gwyn fyd na ddeuent eto i lawr,
O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Gwêl a oes ynom bechod cudd
a maddau ein hychydig ffydd;
mwy yw dy ras na’n beiau mawr:
O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Gad inni weld dy wedd a byw,
gad wybod mai tydi sy Dduw;
gwisg wisgoedd dy ogoniant mawr,
O Dduw ein Iôr, par lwydd yn awr.

EIFION WYN, 1867-1926

(Caneuon Ffydd 240)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015