logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Frenin nef, addolwn Frenin nef

Frenin nef, addolwn Frenin nef,
boed gogoniant, anrhydedd, mawl iddo ef:
Frenin nef, llifa’i awdurdod ef
o’i orsedd fry, fe’i rhoir i ni,
mawl fo ein llef!
Plygwn lawr, dyrchafwn nawr hardd enw Iesu,
iddo ef dyrchafwn lef, Grist Iesu ein Brenin:
Frenin nef, addolwn Frenin nef,
marw wnaeth ef, nawr mae’n y nef, addolwn ef!

JACK HAYFORD (Majesty, worship his majesty) cyf. CATRIN ALUN

(Caneuon Ffydd 277)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015