logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ffordd nid oes o waredigaeth

Ffordd nid oes o waredigaeth
ond a agorwyd ar y pren,
llwybyr pechaduriaid euog
draw i byrth y nefoedd wen:
dyma’r gefnffordd,
gwna i mi ei cherdded tra bwyf byw.

Nid myfi sydd yn rhyfela,
‘dyw fy ngallu pennaf ddim;
ond mi rois fy holl ryfeloedd
i’r Un godidoca’i rym:
yn ei allu
minnau ddof drwy’r anial maith.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

PowerPoint