logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ffoed negeseuau gwag y dydd

Ffoed negeseuau gwag y dydd,
trafferthion o bob rhyw,
ac na pharhaed o dan y nef
ond cariad pur fy Nuw.

Meddiannodd ef â’i ddwyfol ras
fy holl serchiadau’n un;
na chaed o fewn i’m hysbryd fod
neb ond fy Iesu’i hun.

Mae’r Iesu’n fwy na’r nef ei hun,
yn fwy na’r ddaear las,
ac Iesu’n unig fydd fy oll fyth,
fyth o hyn i maes.

Cyflawnder nerth, cyflawnder gras,
cyflawnder nef y nef,
uwch deall seraffim a saint,
sy’n trigo ynddo ef.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 290)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015