logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe’th ddilynaf di at y Groes

Fe’th ddilynaf di at y groes
A phlygu i lawr, plygu i lawr.
Fe’th ddilynaf di at y groes,
A phlygu i lawr, plygu i lawr.

Gwisg fi â’th gyfiawnder di,
Golch fi yn lân o’m haflendid.
Rwy’n dewis dilyn ôl dy droed.
O! pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr.

Rho dy gusan i’m hiacháu,
Tynn fi drwy y fflamau sy’n puro,
Golch fi yn dy gariad drud,
O! pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr.

Yn wylaidd rwyf i’n plygu i ti;
Gwylaidd y dof ger dy fron.
Ac yn crefu am ras,
o’th drugaredd rho flas,
A phura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr.

Pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr,
Pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr,
Pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwion Hallam, I will follow you (Lay myself down) gan Sue Rinaldi a Caroline Bonnett © 1997 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music, tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 64)

PowerPoint