logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

F’enaid, cod, bendithia dy Greawdwr

F’enaid, cod, bendithia dy Greawdwr,
Ef yw d’Arglwydd, Ef dy gyfaill triw;
Araf i ddig, cyfoethog mewn trugaredd
Mola dy Geidwad, Iesu.

Brenin gras, a’i gariad anorchfygol
Bara Byw, caf bopeth ynddo Fe;
Cans ei waed a’m prynodd i’n dragywydd,
Prynodd ar groes fy Iesu.

A chanaf i tra byddaf byw
Am ddyfod cariad nef ;
Pob gair gaiff ganmol Iesu gwiw
Nes iddo ‘ngalw i dref.

Pan ddeffrôf, mi wn Ei fod yn agos;
Pan fwy’n wan, mae Ef, mi wn, yn gryf.
Er im gwympo, daw Ei fraich i’m cynnal:
Diogel yw’m Craig, fy Iesu.

Ynof dyro’r gân rwyt Ti’n ei chanu;
’R hyn na welodd llygaid gad im weld
Rho im ffydd i’m symud i weithredoedd:
Gwna fi yn fwy fel Iesu.

Caf ei weld rhyw ddydd fel mae’n fy ngweled,
Gweld yr Un a’m carodd cyn fy mod,
Heb un llen, pob hiraeth wedi pasio,
Yng nghwmni gwerthfawr Iesu.

Stuart Townend: O my Soul, Arise and Bless your Maker, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M Job.
© yn y cyfieithiad hwn 1999 Thankyou Music/gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com

PowerPoint